Mae Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnwys 25 o Gynghorwyr o Awdurdodau Cyfansoddol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Dinas a Sir Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Phowys.
Penodir yr Aelodau gan yr Awdurdodau Cyfansoddol o blith eu haelodaeth eu hunain, gan ystyried nifer cymharol yr etholwyr yn ardaloedd yr Awdurdodau Cyfansoddol unigol a hefyd y gofyniad o ran cyfrannedd gwleidyddol ledled yr ardal gyfunol.
Rôl yr Awdurdod Tân yw darparu gwasanaethau tân rhagweithiol ac adweithiol i bobl Canolbarth a Gorllewin Cymru mewn ffordd agored, dryloyw a chosteffeithiol; gan weithredu er budd gorau Canolbarth a Gorllewin Cymru a'i ddinasyddion yn gyffredinol.